|
|
Ysgol Gynradd LlanllechidAddysg Fyd-eang a Datblygu CynaliadwyCyswllt: Pennaeth, Mrs Gwenan Davies Jones Ffôn: 01248 600600 E-bost: pennaeth@llanllechid.gwynedd.sch.ukRhannu a FfrydioADCDF - mentora Mae ADCDF a’i rol yn datblygu sgiliau disgyblion yn chwarae rhan blaenllaw yng Nghwricwlm Llywodraeth Cynulliad Cymru 2008. O ganlyniad mae’r Ganolfan Addysg Byd a Phartneriaeth ADCDF gyda Sheila Bennell o Ganolfan Addysg Fyd Prifysgol Cymru Bangor, a Bethan James, Cynnal yn cydlynu, wedi sefydlu cynllun mentora i ysgolion sy’n awyddus i gryfhau agweddau o Ddatblygu Cynaliadwy neu Addysg Fyd-eang. Mae Llanllechid yn falch i rannu arfer dda drwy’r cynllun hyn, gan fentora pedair ysgol ar hyn o bryd. Caethwasiaeth 2007 – Roedd hon yn flwyddyn bwysig i ddathlu Prydain yn diddymu’r diwydiant o gludo caethwaesion o’r Affrig i’r Caribi a’r Amerig. Cytunodd disgyblion wneud arddangosfa i’r cyhoedd a disgyblion eraill yng Nghastell Penryn ar yr amod y buasai eu fideo caethwasiaeth yn cael ei ddangos yn barhaus i bawb yno. Aethant ati i ddehongli caethwasiaeth a’r gwersi i ni ddysgu o’r hanes brwnt yma, gan gynnwys pwysigrwydd Masnach Deg a gwrthwynebu hiliaeth. Buont yn cyd-lynnu gyda’u ffrindiau yn Jamaica gan gynnwys gwaith ar y cyd ar gyfer yr arddangosfa. Oherwydd ei boblogrwydd parhaodd yr arddangosfa yn 2008 a bellach mae’r cynnwys yr arddangosfa ar ddisg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi ei ddanfon i bob ysgol. Bu hefyd ceisiadau gan ysgolion unigol i fenthyg fideo ein gwrth gaethwasiaeth/ hybu Masnach Deg y disgyblion, a nid o Gymru yn unig ee ysgol uwchradd o Swindon gydag adborth brwdfrydig iawn. Hyfforddiant / rhannu arfer da Mae’r ysgol wedi ymgymryd a chyflwyno astudiaethau achos mewn hyfforddiant athrawon a chyflwyniadau Cymru-gyfan yng Nghaerdydd.
Partneriaeth ADCDF Gogledd Cymru Mae’r ysgol yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill a diddordeb cyffredin megis drwy Bartneriaeth ADCDF Gogledd Cymru sy’n agored i bawb o ysgolion yr ardal ac yn cynnig cefnogaeth yn ogystal a bod yn ffynhonell am syniadau a adnoddau newydd. Mae adnoddau a geir ar fenthyg gan y Ganolfan Addysg Fyd, Bangor yn galluogi athrawon i gyflwyno agweddau o ADCDF yn rhad ac am ddim. Y we Mae’r safle we www.llanllechid.gwynedd.sch.uk yn gyfrwng rhannu syniadau gydag eraill hefyd. Eraill Mae’r ysgol yn ei thro yn ddiolchgar iawn i’r holl unigolion a chyrff sydd wedi ei hannog yn eu tro i fwrw ati gyda’r gwaith cyffrous ADCDF gan gyfrannu gyda grantiau, ymweliadau, cyngor neu adnoddau.
“Llongyfarchiadau i’r ysgol ar brosiect Jamaica. ‘Dwi’n gobeithio fod mwy o ysgolion yn gwneud yr un peth.”Gweinidog Addysg Cymru, Jane Davidson, AC ar ymweliad 2005.Deg nodwedd a arweiniodd at lwyddiant cynllun Jamaica Ysgol Llanllechid
1. Arweiniad ysgol-gyfan a hirdymor gan y Pennaeth. 2. Gweu y gwaith i’r cynlluniau pynciau craidd a sylfaen ee iaith a daearyddiaeth. 3. Ymrwymiad y cydlynydd TGCh a gwaith tîm da. 4. Empathi y disgyblion tuag at y bobl yn y wlad ddewisedig ac asesiad parhaus o’u hymateb i’r cynllun. 5. Dechrau wrth ganfod eu hunaniaeth eu hun cyn ymateb i hunaniaeth eraill. 6. Amynedd a dyfalbarhad wrth geisio creu cyswllt cadarn gydag ysgol arall (3+ cynnig os oes rhaid) a sicrhau cyswllt personol rhwng yr athrawon sy’n gweinyddu’r cyswllt yn y ddwy ysgol. 7. Sicrhau pwyslais ar debygrwydd yn ogystal â gwahaniaethau yn y cyfathrebu. 8. Sicrhau ffynonellau ariannol megis BT a DFID/Cyngor Prydeinig gan ddefnyddio eu harbenigedd. 9. Canfod partneriaid yn y gymuned ee Canolfan Addysg Byd, Cynnal, unigolion o Jamaica, Betty Campbell yn Nhre Bute a nifer mwy. 10. Parodrwydd i ddysgu gan rhagflaenwyr yn y math yma o brosiectau ee Llandrygan/Nicaragua: Sheila Bennell (bellach o Ganolfan Addysg Byd, PCB), Y CYngor Prydeinig ee cyngor ymarfer-da; a pharodrwydd i rannu’r profiadau ag eraill sy’n cychwyn ar y daith ee drwy’r safle we, mentora a hyfforddiant mewn swydd.
|